P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad
Geiriad y deiseb
Ceisio pŵer mynediad deddfwriaethol i'r Gwasanaeth Ambiwlans a fyddai'n caniatáu i'w staff dorri i mewn i eiddo, wrth ymgymryd yn gyfreithlon â'u dyletswyddau, er mwyn achub bywydau neu i achub pobl rhag niwed difrifol
Gwybodaeth ychwanegol
O dan ddeddfwriaeth bresennol, caiff y Gwasanaeth Tân dorri i mewn i eiddo o dan adran 44 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub ac mae gan yr Heddlu'r hawl i wneud hynny hefyd o dan adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Nid yw'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi'i ddiogelu gan ddeddfwriaeth o'r fath ac, er enghraifft, gall ateb galwad brys a chael hyd i glaf yn gorwedd ar lawr eiddo sydd dan glo. Rhaid i'r Gwasanaeth Ambiwlans wedyn ofyn i'r Heddlu ddod i arfer eu pŵer mynediad o dan Adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt aros cyn cynorthwyo'r person sydd wedi'i anafu ac nad yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n ddoeth
Prif
ddeisebydd: Mr
Fran Richley
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 16 Mehefin
Nifer y deisebwyr:67 llofnod ar lein